Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Firefox o'i gymharu ag Apple Safari

Mae gan Safari a Firefox nodweddion preifatrwydd a diogelwch da.

Ond mae gan Firefox offer ychwanegol hefyd fel:

Mae Firefox yn cynnig ystod eang o ddewisiadau cyfaddasu, gan gynnwys y gallu i symud dewislenni a bariau offer i leoliadau gwahanol ar ffenestr y porwr. Mae rhyngwyneb Safari yn llai cyfaddasadwy.

Gan nad oes yn rhaid i ni gadw ein cyfranddalwyr yn hapus, gallwn ganolbwyntio ar eich gwneud chi'n hapus a rhoi eich preifatrwydd a'ch hwylustod chi'n gyntaf bob tro.

Mae'n hawdd newid

Mae newid i Firefox yn hawdd ac yn gyflym - mewnforiwch eich nodau tudalen, eich cyfrineiriau, eich hanes a'ch dewisiadau Safari gydag un clic a byddwch yn barod i'w defnyddio ar unwaith Firefox. Dyma sut i fewnforio eich data Safari.