Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Firefox o'i gymharu â Google Chrome

Mae gosodiadau preifatrwydd rhagosodedig Firefox yn llawer cryfach na rhai Chrome - ac mae gennym nodweddion ychwanegol i atal gwefannau rhag eich tracio, fel rhwystro bysbrintio, yn ogystal â'ch dewis o ychwanegion ar gyfer rhwystro hysbysebion.

Rydym yn rhwystro tracwyr fel rhagosodiad. Nid yw Chrome yn gwneud hynny.

Mewn gwirionedd, fel rhagosodiad, mae Chrome yn monitro pa wefannau rydych chi'n ymweld â nhw a beth rydych chi'n ei wneud fel y gall adnabod “pynciau hysbysebu” er mwyn anfon rhagor o hysbysebion atoch. Gallwch rwystro tri phwnc ond does dim modd eu hatal rhag adnabod pynciau hysbysebu eraill ar eich cyfer. ffynhonnell

Mae Chrome yn caniatáu i wefannau eraill gasglu gwybodaeth amdanoch chi fel y gallan nhw awgrymu hysbysebion. Gallwch rwystro gwefannau penodol rhag awgrymu hysbysebion, ond nid oes modd atal casglu data nac awgrymiadau o wefannau eraill. ffynhonnell

Mae Google yn rhedeg rhwydwaith hysbysebu mwyaf y byd, ac mae Chrome yn rhan o hynny.

Gan nad oes yn rhaid i ni gadw ein cyfranddalwyr yn hapus, gallwn ganolbwyntio ar eich gwneud chi'n hapus a rhoi eich preifatrwydd a'ch hwylustod chi'n gyntaf bob tro.

Mae'n hawdd newid

Mae newid i Firefox yn hawdd ac yn gyflym — mewngludwch eich nodau tudalen, eich cyfrineiriau, hanes a dewisiadau Chrome gydag un clic a byddwch yn barod i ddefnyddio Firefox ar unwaith. Dyma sut i newid o Chrome i Firefox.